Eisiau rhywbeth gwahanol?

 rhywfaint o amser sbâr bob wythnos?

Mae Cwmdu yn chwilio am wirfoddolwyr!

Bellach yn ei 21ain flwyddyn, mae’r siop a’r swyddfa bost yn gyfleuster pwysig sy’n cael ei werthfawrogi, sy’n gwasanaethu ardal sy’n cynyddu o hyd. Caiff cwsmeriaid fod yn sicr o dderbyn gwasanaeth croesawgar a chyfeillgar, gydag ystod eang o nwyddau a gwasanaethau am bris fforddiadwy. Dyma rai o’r pethau mae gwirfoddolwyr yn eu gwneud:

 
  • Prince Charles visited Cwmdu in 2009Siopa, casglu nwyddau, a llenwi’r silffoedd
  • Gwirio lefel y stoc a pharatoi archebion am stoc newydd
  • Gwasanaethu cwsmeriaid ac ail-lenwi’r silffoedd
  • Cadw cofnodion
  • Diweddaru’r wefan a llwytho gwybodaeth am y bargeinion diweddaraf ar Facebook
  • Helpu i lanhau’r siop, y bar, a’r bwyty
  • Delio â busnes y Swyddfa Bost (gan ddibynnu ar gymeradwyaeth Swyddfa’r Post)
  • Gwasanaethu coffi, a rhoi cymorth cyffredinol i gwsmeriaid
  • Gosod pebyll ar gyfer digwyddiadau – a’u dymchwel wedyn!
  • Torri’r borfa
Os ydych yn mwynhau cwrdd â phobl a chael hwyl wrth helpu yn y gymuned, neu wrth ennill sgiliau newydd, yna cysylltwch â Pat neu Tanya am sgwrs anffurfiol ar 01558 685156 – neu dewch i gyfarfod nesaf Cymdeithas Cwmdu.