Ydych chi erioed wedi meddwl am gynnal parti gyda mwy o le na sydd gyda chi gartref?
Neu gynnal cyfarfod lle gall pawb ymlacio a chanolbwyntio heb fod ffôn yn canu na bod drws yn clepian?
Beth am ginio Nadolig gyda lle i bawb eistedd a ffwrn ddigonol i ddal y twrci a’r holl drimins?
Efallai mai Tafarn Cwmdu yw’r lle perffaith i chi. Mae’r bwyty’n dal 17 yn gyffyrddus, ac mae dwy ystafell i fyny’r grisiau a chegin broffesiynol gyda’r holl offer angenrheidiol. Os oes angen rhagor o wybodaeth, cewch lawrlwytho’n llyfryn gwybodaeth neu gysylltu â Tanya am sgwrs.