Pentref bach ond pentref llawn bwrlwm yw Cwmdu, yng nghanol Sir Gâr. Mae ysbryd cymunedol cryf yn y pentref, sy’n golygu bod ganddo fwy o lawer i’w gynnig i drigolion ac ymwelwyr nag y byddech yn disgwyl.
Yng nghanol y pentref hardd y mae tafarn leol a siop, sydd wedi’u rheoli gan y gymuned ers 2000. Mae’r dafarn a’r siop wedi ennill Gwobr y Gynghrair Cefn Gwlad i’r pentref, yn ogystal â denu sylw brenhinol pan ymwelodd y Tywysog Siarl â’r pentref ym mis Hydref 2009.
Croeso, felly, i’n pentref bach ni. Rydym ni i gyd yn falch iawn ohono, ac yn gobeithio y bydd y wefan hon yn eich ysgogi i ddod i dreulio rhywfaint o amser gyda ni, boed yn ymweld o bell ynteu’n byw’n lleol. Croeso i chi gysylltu â ni i ofyn unrhyw gwestiynau allai fod gennych – rydym yn croesawu adborth.