CYNGOR CYMUNED TALYLLYCHAU

DATGANIAD

Yn yr amseroedd ansicr hyn rydym yn poeni am iechyd a lles trigolion ein Cymuned.

Er bod ein hadnoddau’n gyfyngedig iawn, hoffem sicrhau pawb ein bod yn meddwl amdanynt ac os gallwn roi cyngor ar ble i gael gwybodaeth neu fanylion gwirfoddolwyr lleol, byddwn yn gwneud ein gorau i helpu. Hoffem gymryd ar y cyfle hwn i ddiolch i’r grwpiau gwirfoddol lleol ym mhentrefi Talyllychau a Cwmdu sydd wedi yn garedig sefydlu rhwydwaith o bobl i wasanaethu’r Cymunedau trwy helpu gyda’r siopa, dosbarthu meddyginiaeth ac ati.

Ar gyfer Talyllychau gallwch anfon neges at y gwirfoddolwyr trwy ddefnyddio tudalen Facebook Talyllychau neu ddefnyddio’r wefan http//www.facebook.com/groups/Talley Village Group.

Ar gyfer Cwmdu gallwch ffonio’r Siop ar 01558 685088 a byddant yn cyfeirio’ch neges at y grŵp. Os nad oes ateb gallwch adael neges. Mae’r siop a’r Swyddfa Bost ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener 9.30 y.b. tan 1.30 y.p. Mae stoc dda gyda nhw a gallwch ffonio gyda’ch archeb a chasglu’r un diwrnod neu’r diwrnod canlynol.

Rydym ni mor ddiolchgar i weithwyr GIG, yr holl staff rheng flaen a’r gwasanaethau hanfodol am y gwaith maen nhw’n ei wneud fel arfer ond yn enwedig nawr, gyda llawer o nhw’n byw ac yn gweithio yn ein Cymuned. DIOLCH YN FAWR.

Dilynwch Ganllawiau’r Llywodraeth ar hunan ynysu a phellter cymdeithasol i amddiffyn eich hun, eich anwyliaid a’r Gymuned ehangach.

RYDYM NI GYD YN HWN GYDA’N GILYDD A DOWN DRWYDDO GYDA CHYMORTH EIN GILYDD! CADWCH YN SAFF